Skip to the content

Amdanom ni

 

Beth rydym yn ei wneud a pham

Elusen sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i annog cariad at ddysgu ymysg plant yw Prifysgol y Plant. Gwneir hyn drwy annog a dathlu cyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol a’r tu allan iddi.

Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud

Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud

Mae plant sy'n cymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant yn cael cyfle i ddysgu mewn ystod gyfoethog o gyd-destunau, profi lleoedd newydd, ymweld â phrifysgolion a mynychu eu seremonïau graddio eu hunain.  Mae'r antur hon yn cyflwyno plant i'r llawenydd o ddysgu, yn dod ag ymdeimlad o ryfeddod yn y byd o'u cwmpas ac yn datblygu eu hyder a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol disgleiriaf.

Y cyd-destun addysg ehangach

Y cyd-destun addysg ehangach

Mae Prifysgol y Plant yn rhaglen sydd o fudd i blant, ysgolion a sefydliadau partner mewn cymaint o ffyrdd. Mae'n ymwneud yn gadarnhaol â llawer o bynciau pwysig sydd ar yr agenda addysg genedlaethol ar hyn o bryd.

Staff ac Ymddiriedolwyr

Staff ac Ymddiriedolwyr

Rhwydwaith o ganolfannau sy'n rheoli eu gweithgareddau'n lleol yw Prifysgol y Plant. Mae'r canolfannau lleol hyn yn cael eu rhedeg gan strwythurau a phartneriaid sy'n bodoli eisoes megis colegau a phrifysgolion, Awdurdodau Lleol a grwpiau o ysgolion. Ymddiriedolaeth Prifysgol Plant yw'r elusen sydd wrth wraidd y rhwydwaith hwn, gan roi cymorth ac arweiniad strategol, a threfnu gweithgareddau codi arian a chyfathrebu.

Atebolrwydd a thryloywder

Atebolrwydd a thryloywder

Ymddiriedolaeth Prifysgol Plant yw'r elusen sydd wrth wraidd rhwydwaith Prifysgol y Plant. Fel elusen, mae Ymddiriedolaeth Prifysgol Plant yn atebol i'r Comisiwn Elusennau ac mae ein cyfrifon a'n manylion llywodraethu ar gael i'r cyhoedd eu gweld a'u lawrlwytho.

Partneriaid rhyngwladol

Partneriaid rhyngwladol

Mae model Prifysgol y Plant wedi'i drwyddedu i bartneriaid cyflenwi ledled Lloegr ond mae gennym hefyd Brifysgol y Plant sy'n gweithredu ledled y byd.