Dyma Dîm Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant
Rhwydwaith o ganolfannau sy'n rheoli eu gweithgareddau'n lleol yw Prifysgol y Plant. Mae'r canolfannau lleol hyn yn cael eu rhedeg gan strwythurau a phartneriaid sy'n bodoli eisoes megis colegau a phrifysgolion, Awdurdodau Lleol a grwpiau o ysgolion. Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant yw'r elusen sydd wrth wraidd y rhwydwaith hwn, gan roi cymorth ac arweiniad strategol, a threfnu gweithgareddau codi arian a chyfathrebu.
Sonjia Peers - Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Partneriaethau
Ymunodd Sonjia â ni fel aelod diweddaraf Tîm Prifysgol y Plant yn 2024, gan ddod â phrofiad helaeth o ddatblygiad, twf ac arweinyddiaeth lwyddiannus i elusennau sydd wedi ennill gwobrau gyda hi.
Mae llawer o yrfa Sonjia wedi canolbwyntio ar wella lles, cyfleoedd bywyd a chyfleoedd plant, pobl ifanc a theuluoedd, yn enwedig trwy ei gwaith gyda’r Rhaglenni Cychwyn Cadarn Cenedlaethol a Chanolfannau Plant a thrwy Fenter Cronfa Swyddi’r Dyfodol. Mae Sonjia yn frwd dros greu newid cymdeithasol cadarnhaol gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau a thrawsnewid bywydau a chymunedau.
Codi gobeithion a dyheadau ynghyd â gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc er mwyn iddynt gael dyfodol gwell a mwy disglair, sy’n dod â Sonjia i Brifysgol y Plant.
E-bostiwch Sonjia gydag ymholiadau am bartneriaethau cenedlaethol a materion strategol.
Sonya Christensen - Rheolwr Ymgysylltu a Chynhwysiant
Ymunodd Sonya â Phrifysgol y Plant ym mis Hydref 2018 ar ôl dod o gefndir yn rolau'r Trydydd Sector a Rheolaeth Gorfforaethol. Yn ei phrofiad diweddar fel Rheolwr Datblygu ar gyfer gwaith arloesol Academi Gwaith Cymdeithasol Manceinion Fwyaf, cafodd y dasg o wella addysg Gwaith Cymdeithasol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar draws Manceinion Fwyaf.
Mae ei chefndir fel Seicotherapydd Plant mewn ysgolion cynradd ac fel Cyfarwyddwr rhaglen o wasanaethau newid bywyd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i deuluoedd sydd ag anghenion lluosog a chymhleth wedi ysgogi ei hangerdd i ehangu mynediad at wasanaethau i blant.
E-bostiwch Sonya gydag ymholiadau am sefydlu Prifysgol y Plant newydd neu ffoniwch
Liam Nolan – Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Ymunodd Liam â Phrifysgol y Plant yn 2016 gan ganolbwyntio ar weithio gyda rhwydwaith Prifysgol y Plant a bloeddio am ei llwyddiannau niferus. Fel cyn-athro Saesneg fel iaith dramor, mae addysg a'r posibiliadau y mae Prifysgol y Plant yn eu cynnig i ddysgwyr ifanc yn bwysig iawn iddo.
Mae gan Liam dros 14 mlynedd o brofiad yn y sector elusennol mewn cymysgedd o rolau codi arian a chyfathrebu. Yn fwyaf diweddar, mae wedi bod yn godwr arian hunangyflogedig ac wedi gweithio ar brosiectau digidol proffil uchel ar gyfer sefydliadau elusennol a'r llywodraeth.
E-bstiwch Liam gydag ymholiadau yn ymwneud â chyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau neu ffoniwch
Cordelia Howard – Swyddog Cynhwysiant Digidol
Ymunodd Cordelia â Phrifysgol y Plant ym mis Medi 2019 fel Swyddog Cynhwysiant Digidol i weithio gyda'r rhwydwaith yn y cyfnod cyffrous hwn wrth i ni drosglwyddo i blatfform ar-lein Prifysgol y Plant.
Daw Cordelia o gefndir Edtech. Mae addysg a'r effaith y gall adnoddau digidol ei chael i helpu plant i wireddu eu potensial llawn a datblygu llawenydd dysgu’n bwysig iawn iddi. Mae ganddi dros ddeng mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg, yn gyntaf fel gweithiwr AAA arbenigol cyn symud i edtech lle mae hi wedi canolbwyntio ar hyfforddi ysgolion a rhoi cymorth technegol. Wrth wraidd ei holl waith mae gofal a diddordeb gwirioneddol mewn pobl.
E-bostiwch Cordelia gydag ymholiadau am Brifysgol y Plant Ar-lein neu ffoniwch
Dyma Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant
Mae Jackie yn Is-Ganghellor Prifysgol Newman, Birmingham, ar ôl bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Mynediad a Dysgu Gydol Oes) ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae ei gyrfa wedi canolbwyntio'n helaeth ar ddysgu gydol oes a mynediad at AU felly mae bod yn rhan o Fwrdd Ymddiriedolwyr Prifysgol y Plant yn ffit naturiol.
Mae Jackie yn dod ag uwch brofiad helaeth i'r Bwrdd mewn amrywiaeth o Brifysgolion ac ymrwymiad i agor cyfleoedd i blant a phobl ifanc.
"Rwy'n falch o fod yn Ymddiriedolwr Prifysgol y Plant oherwydd fy mod i’n credu y dylai pob plentyn gael y cyfle i fynd cyn belled ag y bydd ei ddawn a'i waith caled yn caniatáu, waeth beth fo'i gefndir. Rwyf wedi gweld yr effaith y gall Prifysgol y Plant ei chael nid yn unig ar y plant, ond ar eu teuluoedd a'u cymunedau, ac mae'n fraint cael cymryd rhan."
Mae Peter yn Gyfrifydd Siartredig gyda gyrfa hir mewn amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen a Chymdeithas y Cyfreithwyr, ond a dreuliwyd yn bennaf yn y Gwasanaethau Ariannol, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyllid Cymdeithas Adeiladu Dudley.
Mae ei rolau wedi cwmpasu nifer o Swyddi Cyfarwyddwyr Cyllid yn ogystal â rolau’n ymwneud â’r Strategaeth Gorfforaethol a Chyllid Corfforaethol ac yn cynnwys arwain swyddogaethau Cymorth eraill, gan gynnwys Adnoddau Dynol, Risg a TG.
"Rwy’n frwd dros addysg a dros helpu pobl i gyflawni eu potensial. Rwy'n falch iawn o fod yn Ymddiriedolwr Prifysgol y Plant, sy’n sefydliad ac yn rhwydwaith sy'n ysbrydoli plant i ddysgu ac i fwynhau dysgu gydol oes."
Vicky yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technoleg a Data Shelter. Mae wedi gweithio mewn rolau technoleg, data a digidol yn y sectorau cyhoeddus a dielw, gan arwain ar raglenni newid ar raddfa fawr, ffyrdd hyblyg o weithio, llywodraethu a newid diwylliant.
Mae Vicky yn frwd dros sut y gellir defnyddio digidol/technoleg a'r cyfleoedd y mae'n eu rhoi i ddangos effaith, gwella ffyrdd o weithio a chyrraedd buddiolwyr a chefnogwyr.
"Rwyf mor falch o fod yn ymddiriedolwr Prifysgol y Plant gan fy mod yn credu'n gryf y dylai plant a phobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd sy'n helpu i ddatblygu cariad at ddysgu sy'n eu harwain i ffynnu a chyflawni eu potensial"
Mae Tania yn rheoleiddiwr yn yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH). Mae ganddi gefndir cyfreithiol, ar ôl gweithio mewn cyfraith Hawliau Dynol a Mewnfudo am ddwy flynedd, cyn cymhwyso ei phrofiad cyfreithiol mewn lleoliad rheoleiddio. Mae ei rôl yn yr ASH yn cynnwys cynnal ymchwiliadau pan fo posibilrwydd o dorri rheoliadau Hysbysebu a chyfrannu at waith traws-swyddogaethol i wella effaith polisi a rheoleiddio'r sefydliad.
Ar wahân i'w swydd bob dydd, Tania yw sylfaenydd, cynhyrchydd a cyflwynydd y podlediad Brown Don't Frown, sy'n tynnu sylw at brofiadau amrywiaeth eang o fenywod ac yn dod â safbwyntiau newydd. Fel cyflwynydd podlediadau hunan-addysgedig, mae'n dod â set sgiliau eang mewn technoleg ddigidol a marchnata gyda hi. Mae hefyd yn ysgrifennu yn ei blog www.taniasweeklydose.com ac yn y HuffPost, sy'n ymdrin â phynciau fel symudedd cymdeithasol, hunaniaeth ddiwylliannol a ffeministiaeth ryngadrannol.
Mae effaith gadarnhaol symudedd cymdeithasol ac addysg ar ei bywyd ei hun wedi ysgogi Tania i wirfoddoli ar gyfer achosion sy'n grymuso grwpiau ifanc a’r rhai sy’n agored i niwed.
"Fel Ymddiriedolwr Prifysgol y Plant, rwy'n teimlo'n hynod falch ac anrhydeddus o allu chwarae rhan mewn llunio strategaethau sy'n rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ac rwy'n cydnabod yr effaith wirioneddol y mae Prifysgol y Plant yn ei chael o ran helpu plant i wireddu eu potensial."
Mae Bina yn Bennaeth Partneriaethau Strategol (Ymchwil) yn Cancer Research UK. Mae ganddi radd feddygol ac mae hi wedi treulio ei gyrfa yn rhychwantu byd technoleg feddygol, ymchwil ac arloesi, ac yn gwella canlyniadau a phrofiad i gleifion.
Mae Bina’n frwd dros amrywiaeth a chynhwysiant ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd addysgol, ar ôl gweld yn uniongyrchol effaith drawsnewidiol addysg eang.
"Rwy'n falch o fod yn Ymddiriedolwr Prifysgol y Plant oherwydd ei bod yn ffordd wych i blant ddod o hyd i'r ffordd i ddysgu gydol oes a'i mwynhau"
Mae Kate yn Fentor Rhanbarthol yn Ymddiriedolaeth Addysgu Gwyddoniaeth Gynradd (YAGG), lle mae'n hyrwyddo arfer gorau mewn gwyddoniaeth gynradd ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr ac mae'n rhan o Goleg Cymrodyr arloesol cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth. Mae'n rhan o fwrdd Gorllewin Canolbarth Lloegr ar gyfer y Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth, mae wedi ysgrifennu ar gyfer cylchgronau athrawon ac mae ar y bwrdd golygyddol ar gyfer Gwyddoniaeth Gynradd.
Cyn ymuno â'r YAGG, roedd Kate yn Bennaeth Cynorthwyol ysgol Gynradd Clifton yn Birmingham, lle roedd rhan o’i rôl yn cynnwys cyflwyno a chydlynu Prifysgol y Plant. Hefyd cyflwynodd Kate Brifysgol y Plant i ysgolion lleol eraill ac mae wedi cyflwyno mewn seremonïau graddio i ysbrydoli plant i anelu at fod y gorau y gallant fod a 'chyrraedd y sêr!' Mae'r profiad uniongyrchol hwn o weld effaith ein gwaith wedi ysbrydoli Kate i roi ei sgiliau proffesiynol helaeth a'i mewnwelediad i'w defnyddio ar y Bwrdd.
"Rwy'n falch o fod yn rhan o Brifysgol y Plant, gan fy mod wedi gweld drosof fy hun yr effaith y gall ei chael ar y plant eu hunain a'u teuluoedd; gan godi dyheadau ac ymwybyddiaeth o fyd gwych dysgu a gweithgareddau newydd!"
Mae Jan yn uwch arweinydd strategol gyda dros 30 mlynedd o brofiad o uwch reolwyr yn y sectorau AU a llyfrgelloedd ymchwil. Yn fwyaf diweddar, treuliodd Jan ddeng mlynedd ym Mhrifysgol Manceinion, a chyn hynny, roedd ganddi uwch rolau yn y Llyfrgell Brydeinig, Prifysgol Leeds, yr LSE, yn dilyn ystod o rolau o fewn y sector polytechnig a choleg blaenorol.
Mae Jan wedi gweithredu fel ymgynghorydd allanol i amrywiaeth o brifysgolion yn rhyngwladol, ac mae'n parhau i gymryd rhan, fel ymgynghorydd, yn natblygiad uwch arweinwyr AU yn Ewrop a Dubai. Gan dreulio ei bywyd yn y sector addysg, mae Jan yn frwd dros yr hyn y mae Prifysgol y Plant yn ceisio'i gyflawni.
"Rwy'n falch o fod yn Ymddiriedolwr Prifysgol y Plant oherwydd fy mod i am i blant gael yr holl gyfleoedd mewn bywyd y gall cymdeithas eu rhoi iddynt. Rwy'n credu y gall Prifysgol y Plant wneud cyfraniad sylweddol i hyn drwy ddatblygu cariad at ddysgu mewn plant o bob cefndir".