Rhieni a phlant
Ar hyn o bryd mae Prifysgol y Plant yn rhedeg mewn dros 1,000 o ysgolion ar draws 66 o ardaloedd awdurdodau lleol yn Lloegr. Mae plant fel arfer yn cofrestru ar gyfer Prifysgol y Plant drwy eu hysgolion.
A yw ysgol fy mhlentyn yn cymryd rhan?
Rhwydwaith o bartneriaid yw Prifysgol y Plant sy'n rheoli eu gweithgareddau'n lleol, gan gynnwys perthnasau ag ysgolion ac aelodau lleol. Eich Prifysgol y Plant leol yw'r lle gorau i ddechrau pan ddaw'n fater o gael eich plentyn i gymryd rhan gan y gall ddweud wrthych sut y mae'n rheoli aelodaeth ac a yw eisoes yn gweithio gydag ysgol eich plentyn. I ddod o hyd i'ch Prifysgol y Plant agosaf ewch yma.
Beth os nad oes Prifysgol y Plant yn fy ardal i?
Os oes Prifysgol y Plant yn eich ardal ond nad yw eich ysgol wedi cofrestru, gallwch awgrymu ei bod yn cofrestru a throsglwyddo manylion eich Prifysgol y Plant leol i athro/athrawes eich plentyn.
Os nad oes Prifysgol y Plant yn eich ardal chi, yna gall ysgol eich plentyn gofrestru o hyd. Cysylltwch â Sonya Christensen gyda manylion eich ysgol a gallwn gysylltu â hi gyda mwy o wybodaeth.