Gweithgareddau i’w gwneud gartref ac ar-lein
Gall dysgu ddigwydd unrhyw le gan gynnwys yn y cartref ac ar-lein. Dyma adnoddau o'n rhwydwaith a ledled y byd er mwyn eich cadw'n actif, yn dysgu ac yn cael eich diddanu! Rydym wedi rhoi'r rhain mewn categorïau gwahanol fel y gallwch ddod o hyd i rywbeth newydd i'w wneud yn hawdd. Cliciwch ar y penawdau i ehangu'r adran.
Cwestiynau Cyffredin
NODER: Rydym yn annog pob plentyn a theulu i ddefnyddio'r adnoddau hyn, ond dim ond plant sydd eisoes wedi cofrestru gyda'u Prifysgol y Plant leol fydd yn gallu casglu stampiau Prifysgol y Plant am gymryd rhan. Os ydych am gael gwybod sut i gymryd rhan yn eich Prifysgol y Plant leol, gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt yma. Byddwch yn ymwybodol ein bod fel arfer yn gweithio drwy ysgolion, felly mae cofrestru tra bod ysgolion ar gau yn annhebygol yn anffodus.
- Os byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd â brand Prifysgol y Plant, fel arfer fe welwch fanylion cyswllt ar y ddogfen a chyfarwyddiadau ynghylch sut i gasglu eich stamp. Dilynwch y cyfarwyddiadau hynny.
- Os nad yw'r gweithgaredd yn weithgaredd a ddilyswyd gan Brifysgol y Plant, bydd angen i chi lenwi ffurflen fyfyrio a'i hanfon i contactus@childrensuniversity.co.uk
Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl ar hyn o bryd, rydym ar hyn o bryd yn hyrwyddo llawer o weithgareddau nad ydynt wedi'u dilysu. Mae'r rhain yn weithgareddau yr ydym yn eu hyrwyddo'n ddidwyll ac yn ysbryd Prifysgol y Plant, ond ni allwn dystio i ansawdd y dysgu. Drwy glicio ar unrhyw un o'r dolenni rydych yn cydnabod eich bod yn gadael gwefan Prifysgol y Plant.
Gan nad yw'r rhain wedi'u dilysu, mae'n bwysig nodi:
- cynghorir goruchwyliaeth rhieni wrth edrych ar wefannau allanol
- er mwyn ennill stamp Prifysgol y Plant am gymryd rhan mewn gweithgaredd heb ei ddilysu, bydd angen i chi lenwi ffurflen fyfyrio (Lawrlwytho fel PDF neu lawrlwytho yn Word) a'i hanfon i contactus@childrensuniversity.co.uk
- Nid yw Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant yn gyfrifol am y cynnwys ar y gwefannau allanol hyn
- Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i ychwanegu at y rhestr hon neu i ofyn am ddileu dolenni
Mae Prifysgol y Plant yn ymwneud ag annog cyfranogiad mewn dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Ar hyn o bryd, nid yw llawer o'r cyrchfannau, y clybiau a’r mannau cymdeithasol rydym fel arfer yn cyfeirio pobl atynt mor hygyrch ag y byddent fel arfer oherwydd lledaeniad COVID-19. Mae'n bwysig dilyn cyngor swyddogol a disgresiwn rhieni / ysgolion wrth benderfynu a yw gweithgaredd yn addas. Rydym wedi nodi dolenni i ganllawiau swyddogol yma.
Er bod y rhan fwyaf o'r gweithgareddau rydym yn cyfeirio atynt wedi'u cynllunio i blant eu gwneud ar eu pennau eu hunain gartref, efallai y bydd rhai sy'n annog gweithgareddau sy'n mynd yn groes i gyngor y Llywodraeth ar hyn o bryd. Ystyriwch y canllawiau hyn cyn gweithredu ar gyngor a roddir yn yr adnoddau isod.
Gweithgareddau i roi cynnig arnynt gartref ac ar-lein
Clwb Ar ôl Ysgol y Cyfnod Cloi 2021
Bob wythnos yn ystod y cyfnod cloi byddwn yn hyrwyddo taflen waith genedlaethol gyda phum gweithgaredd awgrymedig ar gyfer yr wythnos. Bydd y rhain yn rhoi syniadau hwyliog i chi neu'ch plentyn ar gyfer gweithgareddau y gellir eu gwneud gartref. Mae un ar gyfer pob diwrnod o'r wythnos, ond gallwch wneud cymaint neu cyn lleied ag yr hoffech! Mae pob gweithgaredd gwerth 1 credyd.
I gael cod stamp ar gyfer Prifysgol y Plant Ar-lein e-bostiwch contactus@childrensuniversity.co.uk gyda thystiolaeth - gallai hyn fod yn ffotograff, fideo, taflen waith - neu daflen fyfyrio wedi'i chwblhau.
Lawrlwythwch y ffurflen fyfyrio fel PDF
Lawrlwythwch y ffurflen fyfyrio fel dogfen Word
Heriau wythnosol Clwb Ar Ôl yr Ysgol
Cliciwch yma am wythnos 18 Ionawr y Clwb Ar Ôl Ysgol
Cliciwch yma am wythnos 25 Ionawr y Clwb Ar Ôl Ysgol
Cliciwch yma am wythnos 1 Chwefror y Clwb Ar Ôl Ysgol
Cliciwch yma am wythnos 8 Chwefror y Clwb Ar Ôl Ysgol
Cliciwch yma am wythnos 15 Chwefror y Clwb Hanner Tymor
Dyma rai gweithgareddau a heriau a ddilyswyd y gallwch eu lawrlwytho a'u cwblhau gartref
Ein Taflen Her Hanner Tymor Mehefin 2021 - Cliciwch yma i lawrlwytho
Ein Taflen Her Gwyliau’r Pasg 2021 - Cliciwch yma i lawrlwytho
Her Hanner Tymor Dwyrain Llundain Chwefror - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae ein partneriaid yn Nwyrain Llundain wedi rhoi'r her hon at ei gilydd. I'w gwblhau bydd angen i chi hefyd lawrlwytho eu templed Doodle a Day a'r templed Story of You hwn.
Taflen Her Oes Haearn Amgueddfeydd Colchester a Phrifysgol y Plant Essex - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae Prifysgol y Plant Essex wedi gweithio gydag Amgueddfeydd Colchester i greu'r set wych hon o heriau sy'n gysylltiedig â'r Oes Haearn.
Heriau Hanner Tymor Prifysgol y Plant Essex a Suffolk - Cliciwch yma i lawrlwytho #1 & cliciwch yma i lawrlwytho #2
Dyma set wych o heriau gan ein partneriaid yn Essex a Suffolk.
Ein Taflen Her Gwyliau’r Gaeaf 2020 - Cliciwch yma i lawrlwytho
Rhowch gynnig ar ein Her Gwyliau’r Gaeaf 2020! Cofiwch gasglu tystiolaeth o'ch gweithgareddau yna gallwch lenwi ffurflen myfyrio gweithgaredd sydd i'w gweld yma a'i hanfon i contactus@childrensuniversity.co.uk i gasglu eich stamp.
Gweithgaredd Cymeriad Prifysgol y Plant Nottingham Trent - Cliciwch yma i lawrlwytho
Rhowch gynnig ar y daflen weithgaredd hon gan ein partneriaid yn Nottingham. Ystyriwch nodweddion cymeriad gwahanol fel y dangosir yn y llyfr The Lion, the Witch and the Wardrobe
Her Haf Prifysgol y Plant Dwyrain Llundain - Cliciwch yma i lawrlwytho
Rhowch gynnig ar y Daflen Her Haf wych hon gan ein partneriaid yn Nwyrain Llundain
Her Gwanwyn Prifysgol y Plant Caint - Cliciwch yma i lawrlwytho
28 tudalen yn llawn heriau gan ein partneriaid ym Mhrifysgol y Plant Caint!
Taflen Her Pasg Prifysgol y Plant Blackburn - Cliciwch yma i lawrlwytho
Gweithgareddau Pasg gan ein partneriaid yn Blackburn
Ein Her Caredigrwydd #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae caredigrwydd mor bwysig. Allwch chi wneud gweithred o garedigrwydd ar hap bob dydd am wythnos?
Adnoddau i'w Lawrlwytho gan Brifysgol y Plant Yr Alban - Cliciwch yma i’w gweld ar ei gwefan
Gweld a lawrlwytho amrywiaeth o weithgareddau a gynhyrchwyd gan ein partneriaid yn Yr Alban.
Prifysgol y Plant Awstralasia - Cliciwch yma i weld ar ei gwefan
Gweld a lawrlwytho amrywiaeth o weithgareddau a gynhyrchwyd gan ein partneriaid yn Awstralia a Seland Newydd.
Heriau Mawr Prifysgol y Plant Dwyrain Llundain 2020 - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae ein partneriaid yn Nwyrain Llundain wedi llunio'r amrywiaeth fawr hon o weithgareddau i'w gwneud gartref. Gadewch i ni weld sawl un y gallwch ei wneud!
Her Fawr Prifysgol y Plant Essex a Suffolk 2020 - Cliciwch yma i lawrlwytho
Edrychwch ar y pecyn mawr hwn o heriau gan ein partneriaid yn Essex a Suffolk.
Heriau Haf The Hive 2020 - Cliciwch yma i lawrlwytho
The Hive yw ein partneriaid sy'n rhedeg Prifysgol y Plant yn Croydon a New Forest. Gallwch lawrlwytho eu her haf fawr ac yna llenwi'r daflen weithgaredd hon pan fyddwch wedi gwneud hynny.
Taflen waith Money Matters gan Rooster Money - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae bod â rhywfaint o allu gydag arian, deall pwysigrwydd cynilo a bod yn gall gyda'ch arian parod yn bwysig iawn. Dysgwch sut mae gwneud hyn gyda chwrs Money Matters Rooster Money.
Pecyn Gweithgareddau Celfyddydau Creadigol Bigfoot - Cliciwch yma i lawrlwytho
Bydd y pecyn hwn yn eich helpu i ddysgu mwy am y celfyddydau creadigol diolch i Bigfoot Arts Education! Fe'i cynlluniwyd i'ch helpu i feddwl am amrywiaeth o rolau sy'n bwysig mewn perthynas â chreu digwyddiad celfyddydol, perfformiad neu ffilm. Gallwch ennill hyd at 6 chredyd.
Teithiau orielau Celf - https://secretldn.com/virtual-tours-museums-galleries/
Dolen at dros 30 o orielau celf gwahanol y gallwch edrych o'u cwmpas ar-lein
Tynnwch luniau yng nghwmni Nick Sharratt - http://www.nicksharratt.com/drawing_tips.html
Awgrymiadau tynnu lluniau gan Nick Sharratt
National Geographic Kids - https://www.natgeokids.com/uk/
Gweithgareddau a chwisiau i blant iau
Taith amgueddfeydd rithwir - https://www.travelandleisure.com/attractions/museums-galleries/museums-with-virtual-tours
Ymweld â 12 amgueddfa neu oriel wahanol o'ch cartref eich hun
Teithiau Amgueddfa Llundain Rhithwir - https://londonist.com/london/museums-and-galleries/calling-all-culture-vultures-here-s-how-to-experience-london-virtually-during-the-coronavirus-pandemic
Teithiau o amgylch nifer o Amgueddfeydd Llundain
Creative Bug - https://www.youtube.com/user/cbugstudio
Dylunwyr a chrefftwyr ysbrydoledig yn dod â gweithdai fideo yn syth i'ch sgrin
DWDLO AMSER CINIO gyda Mo Willems! - https://www.youtube.com/user/TheKennedyCenter
Bydd y darlunydd adnabyddus Mo Willems yn gwneud Dwdlo Amser Cinio i blant ar YouTube
Back to All News #gardengig - Gwnewch gerddoriaeth am 4pm - https://www.sheffieldmusichub.org/news/gardengig-make-music-at-4pm
Rydym yn eich annog i gynnal #giggardd am 4pm (unrhyw ddiwrnod, bob dydd os dymunwch) i ddod â cherddoriaeth a phositifrwydd i'ch cymuned. P'un ai eich plentyn neu chi sy'n chwarae, rydym am godi calonnau a chadw ein myfyrwyr i ymarfer a pherfformio.
Gwefan swyddogol Neil Gaiman ar gyfer Darllenwyr iau - http://www.mousecircus.com/
Gwefan swyddogol Neil Gaiman ar gyfer Darllenwyr iau, darllen, chwarae gemau, lawrlwytho gweithgareddau y gellir eu hargraffu, a gwylio fideos a ysbrydolwyd gan lyfrau Neil Gaiman
Red Ted Art - https://www.redtedart.com
Celf a chrefft hawdd i’r rhai bach
The Imagination Tree - https://theimaginationtree.com
Gweithgareddau celf a chrefft creadigol i'r plant lleiaf
Teithio a Hamdden - https://www.travelandleisure.com/attractions/museums-galleries/museums-with-virtual-tours
Esgus teithio'r byd. Ewch ar daith rithwir o'r 12 amgueddfa enwog hyn
Health Street - https://padlet.com/jgladwin999/z3y2ql69kkpy
Dysgwch fwy am y rolau sydd ar gael yn y GIG a sut maen nhw'n effeithio ar bobl
Duolingo - https://www.duolingo.com
Dysgu ieithoedd am ddim. Gwe neu ap.
Blockly - https://blockly.games
Dysgu sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol - yn hwyliog ac am ddim
Amgueddfa Banc Lloegr - https://www.bankofengland.co.uk/education/home-learning-hub
Mae Amgueddfa Banc Lloegr wedi llunio rhestr o weithgareddau dysgu yn y cartref i helpu myfyrwyr, athrawon, teuluoedd ac oedolion i ddysgu am yr economi, ein gwaith a'n hanes
Tinkercad - https://www.tinkercad.com
Tinkercad - ap rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer dylunio 3D, electroneg, a chodio.
Toy Theatre - https://toytheater.com/
Gemau addysgol ar-lein
Chatter Pack - https://chatterpack.net/blogs/blog/list-of-online-resources-for-anyone-who-is-isolated-at-home
Rhestr o adnoddau di-dâl, ar-lein, i leddfu diflastod.
Amazing Educational Resources - http://www.amazingeducationalresources.com/
Rhestr ar-lein enfawr o gwmnïau a sefydliadau sy'n cynnig tanysgrifiadau a gweithgareddau am ddim
Amgueddfa Banc Lloegr - https://www.bankofengland.co.uk/education/home-learning-hub
Mae Amgueddfa Banc Lloegr wedi llunio rhestr o weithgareddau dysgu yn y cartref i helpu myfyrwyr, athrawon, teuluoedd ac oedolion i ddysgu am yr economi, ein gwaith a'n hanes
Beast Academy (Mathemateg) - https://beastacademy.com/
Adnoddau mathemateg ar-lein, gan gynnwys rhai y gellir eu hargraffu
Gwersi gwyddoniaeth am ddim - https://mysteryscience.com
Mystery Science
Scratch - https://scratch.mit.edu/explore/projects/games/
Rhaglennu cyfrifiadurol creadigol
Wow Science - https://wowscience.co.uk/
Amrywiaeth enfawr o weithgareddau gwyddoniaeth gynradd!
Bathodynnau Blue Peter - https://www.bbc.co.uk/cbbc/joinin/about-blue-peter-badges
Os oes gennych stamp a blwch post cyfagos
Sport England - https://www.sportengland.org/news/how-stay-active-while-youre-home
Sut i gadw'n heini gartref
Joe Wicks, The Body Coach - https://www.youtube.com/playlist?list=PLyCLoPd4VxBvQafyve889qVcPxYEjdSTl
Mae Joe Wicks yn cynnal gwersi Addysg Gorfforol bob dydd am 9am yn fyw ar YouTube
Oxford Owl for Home - https://www.oxfordowl.co.uk/for-home/
Llawer o adnoddau am ddim ar gyfer plant oedran Cynradd
Cruise challenge - https://www.childrensuniversity.co.uk/media/1231/cruise-challenge.pdf
Crëwyd y daflen waith hon gan un o'n grwpiau Brownies sy’n bartner
World Book Reader - https://worldbook.kitaboo.com/reader/worldbook/index.html?usertoken=Mjk5MzQ6MTpJUjA5MjAxNjoyOmNsaWVudDE2OTc6MTY5NzoyMjE2Mjg4OjE6MTU4NDM4MDExMzA2Mjp1cw%3D%3D
1000au o eLyfrau am ddim
All in One Home School - https://allinonehomeschool.com/
This is the awesome free curriculum that we use. Everything from preschool activities to 12th grade is here!
All in One Home School Games - https://allinonehomeschool.com/thinking/
Dyma'r cwricwlwm rhad ac am ddim anhygoel a ddefnyddiwn. Mae popeth o weithgareddau cyn-ysgol i'r 12fed gradd yma!
Scholastic Learn at Home - https://classroommagazines.scholastic.com/support/learnathome.html
Mae Scholastic wedi creu safle dysgu o'r cartref am ddim gydag 20 diwrnod a mwy o ddysgu a gweithgareddau
Khan Academy - https://www.khanacademy.org/
Yr ysgol ar gau? Rydym yma i chi gydag adnoddau am ddim i gadw pawb i ddysgu.
First News Education - https://schools.firstnews.co.uk/remote-learning-resources/
Gyda chau rhai ysgolion yn fyd-eang a'r potensial am fwy yn gwneud hynny, a ydych wedi ystyried eich ateb ar gyfer dysgu o bell? Am gyfnod cyfyngedig, rydym yn cynnig rhifynnau cyfredol am ddim o bapur newydd First News (fersiwn PDF), Taflenni Gweithgareddau, a threial 6 wythnos estynedig o'r iHub.
Y Brifysgol Agored - https://www.open.edu/openlearn/
OpenLearn y Brifysgol Agored lle mae'r holl gyrsiau am ddim. Mae’n dda ar gyfer pobl ifanc hŷn a rhieni/gofalwyr hefyd!
Mis Ymwybyddiaeth Straen 2021
Ebrill 2021 yw mis Ymwybyddiaeth Straen - beth am gwblhau'r daflen waith hon ac ennill credyd Prifysgol y Plant https://www.childrensuniversity.co.uk/media/1361/stress-awareness-month.pdf
The Kids Should See This - https://thekidshouldseethis.com
Ystod eang o fideos addysgol cŵl
Cbeebies Radio - https://www.bbc.co.uk/cbeebies/radio
Gweithgareddau gwrando i'r rhai iau
Crash Course - https://thecrashcourse.com
Fideos You Tube ar lawer o bynciau
Crash Course Kids - https://m.youtube.com/user/crashcoursekids
Fideos You Tube ar lawer o bynciau
BrainPop - https://www.youtube.com/user/mobytherobot
Mae BrainPOP® yn creu cynnwys cwricwlaidd wedi’i animeiddio
Curiosity Stream - https://www.youtube.com/channel/UCd7zlpSjvUuUwsQdqV3LF3w
Miloedd o ffilmiau a chyfresi dogfennol sydd ar gael ledled y byd ar amrywiaeth o ddyfeisiau. Plymio'n Ddwfn i wyddoniaeth, hanes, technoleg, natur, iechyd a mwy.
Discovery Education - https://www.youtube.com/user/DiscoveryEducation
Mae Discovery Education yn arwain y byd o ran cynnwys digidol sy'n seiliedig ar safonau ar gyfer K-12, gan drawsnewid addysgu a dysgu gyda gwerslyfrau digidol penigamp, cynnwys amlgyfrwng, datblygiad proffesiynol, a'r gymuned ddysgu broffesiynol fwyaf o'i fath. Yn gwasanaethu 4.5 miliwn o addysgwyr a thros 50 miliwn o fyfyrwyr, mae gwasanaethau Discovery Education yn hanner ystafelloedd dosbarth yr UD, 50 y cant o'r holl ysgolion cynradd yn y DU, ac mewn mwy na 50 o wledydd.
Free School - https://www.youtube.com/user/watchfreeschool
Mae FreeSchool yn lle diogel a chyfeillgar i amlygu plant i gelfyddyd enwog, cerddoriaeth glasurol, llenyddiaeth plant, a gwyddoniaeth naturiol mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran ac sy'n hygyrch i'r plentyn.
Adnoddau am ddim i ysgolion
Mae ein partneriaid yn yr YAGG wedi datblygu adnoddau oddi ar y silff ar gyfer rhedeg clybiau allgyrsiol i blant. Wedi'i anelu at athrawon neu oedolion eraill sy'n chwilio am gymorth i gyflwyno clwb gwyddoniaeth neu STEM i blant, mae’r YAGG yn creu 4 pecyn clwb hygyrch.
Mae pob pecyn yn cynnig:
- trosolwg o sut i gynnal y sesiynau a rhestr o'r holl adnoddau sydd eu hangen (deunyddiau syml, bob dydd) ar gyfer 8 sesiwn.
- taflen weithgareddau ar gyfer pob un o'r 8 sesiwn, gan roi arweiniad i arweinydd y sesiwn ar drefnu'r gweithgareddau, a fydd yn cynnwys her ymarferol i'r plant, ffeithiau allweddol/gwyddoniaeth a syniadau ar gyfer cwestiynau a gweithgareddau pellach.
- Mae rhai pecynnau hefyd yn cynnwys taflen ffeithiau i blant fynd â hi adref i'w hannog i rannu canfyddiadau gyda'u teuluoedd a mynd â'u dysgu ymhellach.
Gellir ei lawrlwytho o wefan yr YAGG - Cliciwch yma i lawrlwytho
Taflenni gwaith ar gyfer ymweld â chyrchfannau dysgu
Os ydych chi'n mynd i unrhyw un o'r Cyrchfannau Dysgu hyn, cofiwch fynd â'r taflenni hyn gyda chi!
Sw Chessington - Cliciwch yma i lawrlwytho
Cwrdd â thros 1,000 o anifeiliaid yn Chessington Zoo; o'r egsotig a'r rhai mewn perygl i'r rhai hynod giwt. Mae Zoo Quest yn brofiad dysgu rhyngweithiol hunan-arwain sy'n helpu plant i ddysgu ffeithiau gwych am rai o'r anifeiliaid anhygoel yn y sw ac sy’n dyfnhau eu dealltwriaeth mewn ffordd hwyliog. Mae pob gweithgaredd gwerth 2 gredyd.
Dysgu yn Sw Colchester - Cliciwch yma i lawrlwytho
Mae'r pecyn hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth a gweithgareddau i rieni, teuluoedd a grwpiau i'ch helpu i ddysgu yn Sw Colchester. Cwblhewch y gweithgareddau i ennill stampiau pasbort Prifysgol y Plant! Mae’r gweithgaredd hwn gwerth 1 credyd.
Y Comisiwn Coedwigaeth - Cliciwch yma i lawrlwytho
Lawrlwythwch y daflen weithgaredd hon i fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn ymweld â choetir y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gofalu amdano. Llenwch y daflen weithgaredd hon wrth i chi gerdded o gwmpas y goedwig a’i mwynhau. Dysgwch sut mae coedwig sy'n cael ei rheoli'n dda yn gweithio, a sut y gall fod yn gymaint mwy na dim ond lle i dyfu coed. Mae’r gweithgaredd hwn gwerth 2 gredyd.
Taflen Weithgaredd LEGOLAND® Windsor Resort - Cliciwch yma i lawrlwytho
Lawrlwythwch y daflen weithgaredd hon i fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn ymweld â LEGOLAND® Windsor. Heriwch eich hun yn rhai o'n hoff rannau o'r gyrchfan a llenwch y daflen weithgaredd wrth i chi fynd. Os ydych yn cwblhau'r pecyn gweithgareddau fel rhan o Brifysgol y Plant, cysylltwch â ni i ofyn am ein gostyngiad unigryw. Mae’r gweithgaredd hwn gwerth 4 credyd.
Amgueddfa Llundain - Cliciwch yma i lawrlwytho
Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi o amgylch Amgueddfa Llundain gan dynnu sylw at rai o gyfnodau mwyaf cyffrous Llundain. Mae un gweithgaredd ym mhob oriel, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych o gwmpas i ddysgu am bethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae’r gweithgaredd hwn gwerth 2 gredyd.
Acwaria SEA LIFE - Cliciwch yma i lawrlwytho
Lawrlwythwch y daflen weithgaredd hon i fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw un o acwaria SEA LIFE ledled y DU. Talwch sylw manwl wrth i chi gerdded o amgylch Canolfan SEA LIFE a llenwch daflen weithgaredd Prifysgol y Plant wrth i chi fynd. Dysgwch fwy am gadwraeth yn ogystal â'n crwbanod môr a’n siarcod anhygoel a rhyfeddodau dyfrol eraill. Mae’r gweithgaredd hwn gwerth 2 gredyd.